Wylfa, Ynys Môn
Mae miloedd o weithwyr niwclear ar draws Prydain yn wynebu pleidlais i gynnal streic ai peidio yn dilyn anghydfod  ynglŷn â phensiynau.

Bydd hyn yn effeithio ar weithwyr Magnox yn Wylfa, Ynys Môn ynghyd â 16,000 o aelodau o wahanol undebau llafur sy’n gweithio ar safleoedd niwclear ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r undebau’n gwrthwynebu cynlluniau’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear i wneud arbedion o hyd at £660miliwn, gan honni eu bod am adrefnu cynlluniau pensiwn y gweithwyr erbyn Ebrill 2018.

‘Bygythiad difrifol’

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb Unite fod hwn yn peri pryder am fod “incwm ymddeol 16,000 o weithwyr y diwydiant niwclear o dan fygythiad difrifol oherwydd cynllwynion ariannol y Trysorlys.”

Dywedodd y llefarydd eu bod wedi trefnu cyfarfod gweinidogol ddydd Mercher, ond fod hwnnw wedi’i ohirio.

“Mae’r ffaith mai deuddeg mis yn ôl y cafwyd y cyfarfod diwethaf rhwng undebau a gweinidogion ar bensiynau yn siarad cyfrolau,” meddai’r llefarydd.

Ychwanegodd eu bod nhw’n galw am gyfarfod brys gyda’r gweinidog ynni, Jesse Norman.

Diwygio’r cynllun pensiwn

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear: “polisi’r Llywodraeth yw y dylai pob cynllun cyflog terfynol yn y sector cyhoeddus gael ei ddiwygio erbyn 2018, ac mae pedwar miliwn o weithwyr sector cyhoeddus wedi symud yn barod i drefniadau pensiwn newydd.

“Does dim penderfyniadau penodol ar sut i newid cynlluniau pensiwn ystâd yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear wedi’u gwneud eto. Rydym yn disgwyl dechrau ymgynghoriad ffurfiol ar 9 Ionawr 2017.”