Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mrychdyn dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 9:30yh  nos Sadwrn, 7 Ionawr yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan Ford Transit a cherddwr ar yr A5104 ym Mrychdyn wrth y gyffordd â Queensway.

Cafodd y cerddwr ei gludo i Ysbyty Countess of Chester yng Nghaer mewn ambiwlans ond bu farw bore dydd Llun, 9 Ionawr.

Meddai’r Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn cydymdeimlo’n arw â theulu’r ymadawedig ar yr amser anodd hwn ac maent yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan Swyddog Cyswllt Teuluol.

“Hoffwn siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad hwn, neu unrhyw un a welodd y cerddwr neu’r fan cyn y ddamwain.”

Bu’r ffordd ynghau am rai oriau ond cafodd ei hail-agor am 1:30yb ddydd Sul, 8 Ionawr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod RC17003174.

Nid oes rhagor o fanylion am y cerddwr ar hyn o bryd.