Prifysgol Bangor
Mae arweinydd cwrs gradd BA yn Adran Celfyddyd Gain Prifysgol Bangor wedi condemnio’r brifysgol am fwriad i ddod a’r cwrs i ben eleni heb ymgynghori gyda staff na myfyrwyr.

Dywedodd yr artist Wanda Zyborska fod y bwriad yn un “annoeth” gan rybuddio y bydd effeithiau pellach ar y gymuned petai’r brifysgol yn penderfynu bwrw mlaen a’r cynllun.

Mewn deiseb, sydd wedi ennyn dros 720 o lofnodion, mae Wanda Zyborska yn galw ar swyddogion y brifysgol i ail-feddwl. Dywedodd hefyd bod Undeb Staff Academaidd a Chysylltiad Bangor (UCU) wedi hysbysu’r Brifysgol am ei dyletswydd gyfreithiol i ymgynghori ynglŷn â’r bygythiad i ddod a’r cynllun gradd i ben.

Mae’r brifysgol yn dweud ei bod yn cynnal “adolygiad eang” ar ffyrdd newydd o ddarparu addysg i oedolion a rhaglenni celfyddydau cain.

Dywedodd y Dirprwy i’r Is-ganghellor, Yr Athro David Shepherd: “Mae ein dull o weithio yn anelu at sicrhau bod ein gweithgareddau yn cydweddu’n dda ag amcanion ein cynllun strategol ar gyfer 2015 – 2020.

“Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ceisio adnabod ffyrdd gwahanol o ddefnyddio’n hadnoddau i’n galluogi i ymateb i gyfleoedd newydd i gwrdd ag anghenion myfyrwyr mewn addysg uwch, gan sicrhau ar yr un pryd, ein bod yn gweithredu mewn modd mor effeithlon â phosib.

“Amcan allweddol yn ystod y cyfnod hwn fydd defnyddio ein hadnoddau mewn ffyrdd gwahanol er mwyn gallu parhau i ymateb i anghenion y Brifysgol, ein myfyrwyr a’r rhanbarth.”

‘Rhan hanfodol o wead diwylliannol yr ardal’

Ar hyn o bryd, mae 35 o fyfyrwyr ym Mangor yn dilyn cyrsiau BA ac MA rhan amser mewn Celfyddyd Gain, gydag 18 tiwtor yn rhan o’r adran.

“Mae Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Bangor wedi cyflawni 86.9%, yn safle 14 ledled Prydain yn y tablau Good University Guide 2016, ac mae’r rhaglen Celfyddyd Gain wedi derbyn Canmoliaeth Uchel am Arloesi mewn Dysgu yng Ngwobrau Dysgu Gydol Oes 2009 gan Gymdeithas Prifysgolion Cyntaf,” meddai Wanda Zyborska.

“Mae cyn-fyfyrwyr Celfyddyd Gain yn ymarferwyr creadigol yn yr ardal ac yn bwydo yn uniongyrchol i mewn i’r diwydiannau creadigol ac yn rhan hanfodol o wead diwylliannol yr ardal, gan wella ansawdd bywyd a lles yn y gymuned.

“Rydym yn gofyn i Brifysgol Bangor sefydlu proses ymgynghorol ar y bwriad annoeth i gau Celfyddyd Gain fel mater o frys.”