Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n bryderus iawn am les a diogelwch dyn 58 oed sydd wedi bod ar goll o’i gartref yng Ngwynedd.

Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn ar hyn o bryd ond credir ei fod wedi cael ei weld ddiwethaf yn ardal Ynys Lawd yng Nghaergybi.

Fe fu badau achub a hofrennydd yn chwilio am y dyn bnawn dydd Sul, 8 Ionawr ond nid ydyn nhw wedi dod o hyd iddo hyd yn hyn.

Dywed yr heddlu ei fod o faint tenau, tua 5’ 7 o daldra gyda gwallt brown, byr.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y dyn yn ardal Ynys Lawd rhwng 7 a 8 Ionawr i gysylltu â nhw ar 101.