Matthew Rhys (Llun: Golwg360)
Mae’r Cymro Matthew Rhys wedi’i enwebu ar gyfer gwobr yn y Golden Globes heno.

Mae’n chwarae rhan Philip Jennings yn y gyfres The Americans sydd wedi’i gosod yn y Rhyfel Oer yn y 1980au.

Mae’r gyfres yn adrodd stori ei gymeriad yntau a chymeriad Keri Russell, Elizabeth, y ddau ohonyn nhw’n swyddogion KGB sy’n esgus bod yn bâr priod o America gyda’u plant Paige (Holly Taylor) a Henry (Keidrich Sellati).

Mae disgwyl o leiaf ddwy gyfres arall eleni a’r flwyddyn nesaf.

Y rhai eraill sydd wedi cael eu henwebu yng nghategori’r Actor Gorau mewn Cyfres Ddrama yw Rami Malek (Mr Robot), Bob Odenkirk (Better Call Saul), Liev Schreiber (Ray Donovan) a Billy Bob Thornton (Goliath).

Plot a chymeriad Matthew Rhys

Ar ôl cael gwybod ei fod e wedi cael rhan yn y gyfres, dywedodd Matthew Rhys: “Mae gyda chi ddau berson sydd wedi byw’r bywyd rhyfeddaf gyda’i gilydd gyda thipyn yn y fantol mewn golygfa o gyd-fyw sy’n gelwydd llwyr.

“Ar ddiwedd y peilot, maen nhw’n darganfod ei gilydd am y tro cyntaf.”

Wrth drafod ei gymeriad, dywed: “Mae e’n fath o rodd o gymeriad gan ei fod e’n haenau i gyd ac yn amlochrog.

“A phan ydych chi’n cwrdd â fe, mae e wedi cyrraedd trobwynt mawr yn ei fywyd lle mae popeth yn newid iddo fe.

“Ry’ch chi’n cael gwneud popeth. Ry’ch chi’n cael gwneud kung-fu a golygfeydd emosiynol, a chuddio mewn cymeriadau. Dyma’r pecyn llawn i actor. Mae’n freuddwyd.”