Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddau yrrwr gael eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yng Nghwm Tawe brynhawn dydd Gwener.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 1.35pm ar yr A4067 ar gylchfan rhwng Glais a Phontardawe.

Roedd tri cherbyd mewn gwrthdrawiad â’i gilydd – BMW gwyn, Peugeot arian a Citroen arian, a chafodd gyrwyr y Citroen a’r Peugeot eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.