Neuadd y Farchnad Caergybi
Mae Cyngor Môn wedi dechrau ar y gwaith o adnewyddu Neuadd y Farchnad Caergybi ar gost o dros £2.375 miliwn.

Y bwriad yw troi’r neuadd yn llyfrgell a chanolfan wybodaeth a busnes gyda 97.5% o’r arian yn dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru a’r 2.5% arall o goffrau’r Cyngor Sir.

Bu pryderon am gyflwr yr adeilad rhestredig Gradd II ers blynyddoedd, gyda’r Cyngor Sir yn penderfynu ymyrryd tua deng mlynedd yn ôl.

Yn ôl y Cyngor, bu ymdrechion i ddod i gytundeb gyda’r perchennog blaenorol ond bu’n rhaid defnyddio pwerau statudol Gorchymyn Prynu Gorfodol yn 2015, gyda’r adeilad yn dod i ddwylo’r cyngor ym mis Gorffennaf 2016.

Mae disgwyl i’r gwaith ar drawsnewid yr adeilad sy’n dyddio nôl i 1855 ddechrau’r mis hwn, gyda’r contractwyr Grosvenor Construction o Gonwy yn bennaf gyfrifol.

“Prosiect uchelgeisiol”

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol a fydd yn diogelu adeilad dinesig pwysig a rhan sylweddol o hanes cyfoethog Caergybi,” meddai’r Cynghorydd Richard Dew, deilydd portffolio Cynllunio Cyngor Môn.

“Bydd hefyd yn creu canolbwynt ar gyfer y gymuned leol a lle pwrpasol ar gyfer trigolion. Yn ogystal â chreu llyfrgell newydd sbon, bydd yr adeilad newydd yn gweithredu fel canolfan a fydd yn cyfeirio ymwelwyr i fannau twristiaeth lleol sydd o ddiddordeb.

“Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl gael mynediad i’r adeilad a chaiff ei ddefnyddio er mwyn helpu pobl i ddysgu am dreftadaeth, datblygu sgiliau newydd, cefnogi digwyddiadau cymunedol a darparu lle i fusnesau sy’n tyfu.

Ychwanegodd Annwen Morgan, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cyngor Ynys Môn, “Mae adeiladau hanesyddol fel hyn yn gwbl unigryw.

“Os na fydd rhywun yn ymyrryd yna nid yn unig y bydd yr adeiladau prin hyn yn diflannu o’n trefluniau am byth, bydd yr hanesion maent yn eu hadrodd am ein cyndeidiau hefyd yn diflannu.

“Drwy greu defnydd newydd i’r adeilad hanesyddol hwn byddwn yn sicrhau ei fod yn goroesi a bod straeon newydd yn cael eu creu ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”