Heini Gruffudd
Mae cadeirydd Dyfodol i’r Iaith yn dweud bod angen gwneud mwy i gael pobol i siarad Cymraeg a’i hyrwyddo fel iaith gymunedol, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried newid y ffordd o roi Safonau’r Gymraeg ar waith.

Dywedodd Heini Gruffudd wrth golwg360 ei fod yn croesawu’r son am ddiwygio’r drefn gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, a bod “pwyslais y Safonau yn rhy drwm ar ochr y rheoleiddio”.

“Does dim un iaith yn mynd i gael ei hadfer drwy broses o reoleiddio a chwyno sydd, ar hyn o bryd, yn broses hynod, hynod o astrus,” meddai Heini Gruffudd.

“Mae’r broses o gwyno o ran person unigol bron yn amhosibl,” ychwanegodd.

Aeth tair blynedd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Safonau sy’n nodi pa wasanaethau mae hawl i bobl eu cael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn bennaf gan gyrff cyhoeddus.

Ond bu cwynion lu fod y Safonau yn rhy gymhleth ac yn 2014 fe rybuddiodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fod “rheoleiddio’r Gymraeg yn y gors” ac mai hyrwyddo – nid rheoleiddio – yw’r flaenoriaeth o ran achub yr iaith.

Ac mae Heini Gruffudd o Ddyfodol yr Iaith yn cydweld.

“Buaswn i’n cytuno bod eisiau diwygio mawr [ar y Safonau], symleiddio’r holl broses, rhoi’r pwyslais ar y Comisiynydd yn hytrach na’r unigolyn o ran rheoleiddio,” meddai.

“Bydden i’n dymuno gweld bod pwyslais y Llywodraeth yn mynd ar ddau beth yn bennaf, cynyddu’r niferoedd a hwyluso defnydd y Gymraeg yn iaith gymunedol.

“Mae pob math o brosiectau creadigol yn bosibl i’r cyfeiriad yna, llawer ohonyn nhw wedi dod i ben ar ddiwedd cyfnod Bwrdd yr Iaith.”

Asiantaeth iaith newydd?

Dywedodd Heini Gruffudd hefyd ei fod ar ddeall y bydd asiantaeth iaith newydd i hyrwyddo’r iaith yn cael ei chreu erbyn mis Ebrill – ond gwadu hynny mae Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio Mesur y Gymraeg a bydd cyfrifoldebau a swyddogaethau yn rhan o ystyriaethau’r Papur Gwyn sy’n cael ei lunio ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Yn amlwg caiff y cwestiwn ynghylch a oes angen asiantaeth i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ei hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad hwnnw.”

Safonau – “llawer rhy fiwrocrataidd”

Wrth groesawu’r adolygiad, mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Gymraeg, Suzy Davies, wedi dweud y dylai unrhyw newid adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Tra eu bod yn wych yn eu nod, mae Safonau’r Gymraeg yn llawer rhy fiwrocrataidd ac mae angen balans rhwng lleiahu’r gwaith papur a chadw’r hawliau y mae siaradwyr Cymraeg am ddefnyddio,” meddai Suzy Davies.

“Dylai unrhyw newid yn y gyfraith ystyried effeithiau’r polisi [o gael] miliwn o siaradwyr Cymraeg, a fydd gobeithio yn arwain at ddisgwyliadau uwch o ran darpariaeth ddwyieithog yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

“Rydw i’n croesawu’r adolygiad, sy’n gyfle da i weld sut gall ddeddfwriaeth bresennol gael ei gwella i gael mwy o bobol o alluoedd gwahanol i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml ac yn fwy hyderus.”