Yr Wylfa, Môn
Mae arweintrwyr undebau sy’n cynrychioli miloedd o weithwyr niwcliar yn bwriadu trafod y posibilrwydd o gynnal pleidlais tros streicio, yn dilyn ffrae ynglŷn â phensiynau.

Mae’r undebau yn dadlau bod 16,000 o weithwyr dros 19 maes yn wynebu toriadau dan gynllun Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i arbed £660m.

Mae gweithwyr Magnox ar safleodd Yr Wylfa a Thrawsfynydd ymhlith y rhai allai gael eu heffeithio.

“Mae’r llywodraeth yn honni mai sefydliadau sector cyhoeddus yw’r cwmnïoedd preifat sydd yn rhedeg y safleoedd yma mewn gwirionedd ac felly maen nhw’n mynnu bod rhaid iddynt wynebu’r un diwygiadau a gweddill y sector gyhoeddus,” meddai swyddog cenedlaethol undeb y GMB, Justin Bowden.

Yn ôl yr undebau, mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd y cynlluniau pensiwn wedi’u haddasu erbyn mis Ebrill eleni.