Neil McEvoy AC
Mae Aelod Cynulliad Canol De Cymru yn dweud i rywun dorri i mewn i’w swyddfa yn Nhreganna, Caerdydd, neithiwr.

Mae Neil McEvoy wedi cyhoeddi fideo ohono’i hun, ar wefan gymdeithasol Facebook, y tu ôl i’w swyddfa yn dilyn y digwyddiad honedig.

Mae’n dweud na chafodd “dim byd gwerthfawr ei ddwyn”, er bod pethau drud yn y swyddfa ar y pryd. Yr unig beth gafodd ei ddwyn oedd gwaith papur, meddai wedyn.

Yn ôl y gwleidydd, torri i mewn trwy’r cefn a wnaeth y lladron gan fod bariau metal ar hyd ffrynt ei swyddfa.

“Canu clychau” dros ddiogelwch

“Roedd yn anodd iawn i dorri i mewn. Dyw’r llwybr ddim yn amlwg am fod angen iddyn nhw fynd drwy ddrws i’w gyrraedd ac yna drws arall i dorri i mewn i’r cefn. Mae hefyd ychydig fel llwybr S, felly roedd angen iddyn nhw wybod pa fynedfa i fynd iddo fe,” dywedodd wrth golwg360.

“Rydym yn poeni math arbennig o bobol gan y math arbennig o faterion rydym yn eu hymchwilio. Os rydym ni’n ymchwilio i gytundebau gwerth miliynau yng Nghymru, rydym ni’n mynd i fod ar radar rhai.

“Mae hyn yn canu clychau o ran diogelwch. Dyw ein polisi “Gwleidyddiaeth Anarferol” ddim yn gêm. Rydym yn cymryd yr hyn rydym yn ei wneud o ddifrif ac mae’r lladrad hwn yn ysgogiad mawr i barhau i balu.”