Mae teithwyr yn cael eu rhybuddio i fod yn ofalus wrth i dymheredd gwympo ddisgyn i’w lefel isa’ ers dechrau’r gaea’ heddiw.

Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i fod yn wyliadwrus o rew ar y ffyrdd gyda’r tymheredd yn bygwth disgyn dros nos i finws 6.7 gradd Celsius yn ardal Y Bala.

Bu ardaloedd yn Lloegr gan gynnwys Swydd Efrog a Humber, dwyrain Canolbarth Lloegr a dwyrain Lloegr, dan rybudd tywydd melyn y bore yma.

“Rydym yn rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus ac i fod yn ymwybodol o’r ffaith y gallai bod rhew ar arwynebau sydd heb eu trin gan gynnwys palmentydd, llwybrau seiclo ac ffyrdd llai,” meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae disgwyl iddi droi’n fwynach dros y penwythnos gyda thymereddau mor uchel â 10 gradd Celsius mewn rhannau deheuol o’r Deyrnas Unedig.