Mae elusen a bwrdd iechyd wedi cyflwyno cais er mwyn medru adeiladu uned gofal arbenigol newydd ger Llantrisant.

Bwriad Cymorth Canser MacMillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yw sefydlu’r uned gwerth £6.75 miliwn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Byddai Macmillan yn cyfrannu £5m tuag at yr uned sy’n golygu os caiff y cais ei gymeradwyo, hon fydd eu cyfraniad unigol mwya’ yng Nghymru.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, Susan Morris: “Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, dyma fydd buddsoddiad unigol mwyaf Macmillan yng Nghymru, a dim ond drwy haelioni a chymorth y cyhoedd y gallwn gyllido’r cynlluniau hyn.”

Gwell gwasanaeth i gleifion

Byddai’r uned arbenigol yn cynnwys wyth gwely ac yn darparu gofal i bobl â chanser na ellir ei wella a chleifion â chyflyrau eraill.

Yn bresennol mae’n rhaid cludo cleifion o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i’r bwthyn ym Mhontypridd er mwyn derbyn profion a thriniaethau arbenigol.

Y gobaith yw bydd cleifion gan gynnwys y rhai nid oes modd eu cludo gan nad ydynt yn ddigon iach, yn elwa o’r uned newydd yma.

Y disgwyl yw os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo bydd  gwaith adeiladu’r uned yn dechrau yn hwyrach eleni gyda’r canolfan yn agor diwedd 2018 neu ddechrau 2019.