Mae dyn wedi ei anafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beiciwr ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd ger Hirwaun prynhawn ma.

Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, eu galw i’r digwyddiad ar yr A465 am 14.45yp dydd Mercher, 4 Ionawr.

Mae’r ffordd wedi cau rhwng cyffordd Aberdâr A4059 a chyffordd A4061.

Mae traffig yn cael ei dargyfeirio trwy Aberdâr a phentref Hirwaun ac mae modurwyr wedi eu hannog i osgoi’r ardal os yn bosib.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu’r De ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1700004264.