Rhodri Glyn Thomas
Mae cyn-Weinidog Iaith wedi cefnogi galwad arweinydd Cyngor Sir am ledu defnydd o’r Gymraeg trwy’r gwasanaethau cyhoeddus.

Ac mae Rhodri Glyn Thomas wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fodloni ar gomisiynu adroddiadau a’u “gadael ar y silff”.

Mae wedi ailadrodd galwad gan Weithgor yr oedd yn ei gadeirio i fynnu bod rhaid i bawb sy’n dod i weithio i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gael rhyw lefel o allu yn yr iaith, gan ddibynnu ar natur y swydd a’r ardal.

Heb gynllunio tymor hir o’r math yna fydd gan y Llywodraeth ddim gobaith o gyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai wrth Golwg360.

‘Angen penderfyniadau cadarn’

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn ymateb i alwad blwyddyn newydd gan Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd am i weddill cyrff cyhoeddus yr ardal ddilyn esiampl y cyngor a gwneud y Gymraeg yn rhan ganolog o’u gwaith bob dydd, yn fewnol ac allanol.

Yn ôl y cyn-Weinidog dros y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, roedd angen gwneud penderfyniadau cadarn fel rhai Cyngor Gwynedd os oedd yr iaith am ffynnu, gyda Heddlu Gogledd Cymru’n enghraifft arall o weithredu mewn amgylchiadau amrywiol ar draws y rhanbarth.

“Mae angen cynllunio iaith tymor hir, gofalus, i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg ond dw i ddim yn gweld hynny,” meddai Rhodri Glyn Thomas. “Dw i ddim yn gweld unrhyw arwydd bod y Llywodraeth yn barod i wneud y penderfyniadau gwleidyddol i gyrraedd y pwynt hwnnw.”

Y prif argymhellion

Fe ailadroddodd brif bwyntiau adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol yr oedd wedi ei gadeirio ar gais Llywodraeth Cymru:

  • Bod angen i brif swyddogion awdurdodau lleol Cymru fod â gallu i ddefnyddio’r Gymraeg – y prif weithredwr, y pennaeth adnoddau dynol, y cyfarwyddwr addysg a’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol. Os nad ydyn nhw eisoes yn siarad y Gymraeg, fe ddylen nhw gael hyfforddiant.
  • Y dylai sgiliau iaith Gymraeg – i lefel briodol – fod yn hanfodol ar gyfer pob swydd newydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Bod angen trefn genedlaethol i osod lefelau iaith gwahanol – dim ond gallu i gyfarch a chael sgwrs fer gychwynnol fyddai ei angen ar rai swyddi a’r lefel yn codi wrth i’r cyfrifoldeb gynyddu. Ac fe fyddai’r gofyn yn amrywio o ardal i ardal.

“Fyddai cyrraedd lefel 1 ddim yn gofyn llawer ac fe ddylai fod o fewn cyrraedd hawdd i bawb sy’n cael addysg yng Nghymru ac, felly, yn derbyn rhywfaint o Gymraeg,” meddai Rhodri Glyn Thomas.

“Yn amlwg, fe fyddai angen sgiliau uwch mewn siroedd fel Ceredigion, Gwynedd a Môn, lefel arall wedyn mewn ardaloedd fel Sir Ddinbych a Chonwy a lefel is wedyn mewn rhai ardaloedd eraill.”

‘Patrwm o beidio â gweithredu’

Roedd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am wrthod prif argymelliadau’r adroddiad, gan ddweud bod hynny’n dilyn patrwm o gomisiynu adroddiadau a chyhoeddi dogfennau heb weithredu i’w cyflawni nhw.

“Mae’r Llywodraeth yn comisiynu adroddiadau ac wedyn yn credu bod hynny’n ddigon,” meddai. “Dw i ddim yn gweld bod y Llywodraeth yn barod i gymryd y penderfyniadau gwleidyddol sydd eu hangen.

“Fy ofn i ydi fod y Llywodraeth eisiau dibynnu ar ewyllys da ac addysg Gymraeg ond dyw hynny ddim yn ddigon. Mae ewyllys da’n gallu creu’r cyd-destun ar gyfer twf ieithyddol ond dyw e ddim yn gallu achosi twf ieithyddol.”

Roedd yn dadlau bod sicrhau lle i’r Gymraeg yn y gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol i gyrraedd amcan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, o weld yr iaith yn cael ei defnyddio y tu allan i ysgolion.

Ymateb y Llywodraeth – ‘peryglu ewyllys da’

Ym mis Tachwedd y llynedd y rhoddodd y Llywodraeth eu hymateb i adroddiad y Gweithgor.

  • Hanfod eu gwrthwynebiad i’r ddau brif argymhelliad oedd y bydden nhw’n anodd i’w gweithredu yn ymarferol ac y gallen nhw arwain at “ddirywiad mewn ewyllys da poblogaidd” at y Gymraeg ac y gallai hynny fod yn “berygl i amcan strategol Llywodraeth Cymru”.
  • “Mae adeiladu a chynnal agwedd ffafriol tuag at yr iaith yn hanfodol fel rhan o strategaeth i ‘normaleiddio’. Byddai polisi o osod gofynion o ran sgiliau, nad ydynt yn gysylltiedig â gofynion y swydd, yn bygwth yr ewyllys da hwn,” medden nhw.
  • Roedd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi safbwynt Comisiynydd y Gymraeg fod angen “cysylltiad uniongyrchol” rhwng gofynion y swydd a sgiliau iaith Gymraeg y person sydd yn y swydd honno.
  • Roedd un o aelodau’r Gweithgor – Chris Burns, Prif Weithredwr Cyngor Caerffili – wedi gwrthwynebu’r ddau argymhelliad ac roedd arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi awgrymu bod yr argymhellion ar yr wyneb yn mynd yn groes i ddeddfau cydraddoldeb.
  • Yn ystod yr hydref, roedd y Llywodraeth yn ymgynghori ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg, gyda’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.