Mae 96% o aelodau undeb UNSAIN sy’n gweithio yn adrannau dad-heintio a steryllu ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi pleidleisio o blaid streicio.

Pleidleisiodd 100% o aelodau’r undeb sy’n gweithio yn yr adrannau pelydr-X o blaid y streic.

Maen nhw’n gweithredu yn erbyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n gyflogau anghyfartal o’u cymharu ag ysbytai eraill Cymru, a diffyg gweithredu’r bwrdd iechyd yn sgil eu pryderon.

Bydd y streic yn effeithio ar ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe, Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Llawdriniaethau

Mae disgwyl i’r streic amharu’n sylweddol ar lawdriniaethau nad ydyn nhw’n rhai brys, gyda gweithwyr yn dadlau na fyddai theatrau’n gallu ymdopi hebddyn nhw.

Caiff staff yn yr un adrannau yng ngweddill Cymru eu cyflogi ar Fand 3, ond ar Fand 2 yn unig y caiff staff yn Abertawe Bro Morgannwg eu cyflogi.

Maen nhw hefyd yn gweithio yn ôl swydd-ddisgrifiadau sydd heb gael eu diweddaru.

Yn ôl UNSAIN, mae staff y bwrdd iechyd ar eu colled o £466-£1,879 o’u cymharu â staff yn yr un adrannau ledled Cymru.

Mae UNSAIN wedi bod yn galw am gyflogau teg ers 2014, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi bod yn rhoi pwysau ar y bwrdd iechyd i ddiweddaru swydd-ddisgrifiadau’r staff ers misoedd.

‘Dinasyddion eilradd’

Dywedodd trefnydd UNSAIN Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Mark Turner fod staff “mor grac am eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd”.

“Dydyn nhw ddim yn gallu deall pam fod eu bwrdd iechyd yn llai gwerthfawrogol o’u gwaith na’u cyfoedion sy’n gwneud union yr un gwaith gyda’r un cyfrifoldebau yng ngweddill Cymru.

“Does dim rheswm pam y dylen nhw gael eu talu ar gyfradd is. Mae pobol yn colli cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn o gael eu tan-dalu o bron i £2,000 y flwyddyn.”