Prifysgol Bangor
Bydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei lansio yn Ysgol Galan Cymraeg i Oedolion y Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor nos Iau.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr dros 18 oed, ac yn “gyfle i ddathlu llwyddiant ac ysbrydoli eraill i fynd ati i ymgeisio yn y dyfodol”, meddai’r Eisteddfod.

Gall unigolion ymgeisio’i hunain neu mae modd enwebu rhywun arall.

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Mawrth 31, ac mae modd lawrlwytho’r ffurflen gais o’r llyfryn Beth Amdani drwy fynd i www.eisteddfod.cymru/mon-2017/maes-d.

Bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn ennill tlws arbennig sydd wedi’i roi gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, £300 wedi’i roi gan Gymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor, a gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd.

Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau wedi’u rhoi gan Rhian a Harri Pritchard, a £100 yr un gan deulu’r Wern, Talwrn, tanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Golwg a rhoddion gan Ferched y Wawr.

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Modedern, Ynys Môn rhwng Awst 4-12, a seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar Awst 9.