Mae achos o ffliw adar wedi’i gadarnhau mewn haid o ieir a hwyaid mewn gardd gefn ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr adar eu lladd cyn gynted ag yr amheuwyd bod y clefyd arnynt ond cyn cael cadarnhad o’r clefyd, ac mae parth gwarchod o 3km a pharth gwyliadwriaeth o 10km wedi’u sefydlu o gwmpas yr eiddo sydd wedi’i heintio, er mwyn ceisio lleihau’r peryg o ledaenu’r clefyd.

Dyma’r un straen o’r clefyd a gafwyd ar chwiwell (math o hwyaden wyllt) yn Llanelli ar Ragfyr 22; fferm dyrcwn yn Swydd Lincoln ddydd Gwener, Rhagfyr 16; ac mewn adar domestig, gwyllt a chaeth yn Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.

Cyngor

Meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “Mae hyn yn ein hatgoffa ni oll am beryglon heintiau.  Mae’r Parth Atal a’r gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod yn parhau mewn grym.

“Mae’n bwysig iawn hefyd bod ceidwaid adar yn cadw at y mesurau bioddiogelwch llymaf posib.  Hyd yn oed os yw’r adar dan do, mae’r peryg o gael eu heintio’n un byw, a dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth eraill ofalu eu bod yn gwneud popeth posib i rwystro’u hadar rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt.

“Dylid osgoi symud dofednod a dylech wastad diheintio dillad ac offer.”