Cynllun Gerddi Waterloo
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwaith o adeiladu cynllun llifogydd i’r Rhath yng Nghaerdydd yn dechrau erbyn diwedd mis Ionawr.

Bwriad y cynllun yw lleihau’r risg ar gyfer mwy na 400 o eiddo yn yr ardal pan fydd Nant Lleucu yn gorlifo.

Mae’n cynnwys adeiladu waliau ac argloddiau newydd, lledu sianel yr afon a gwella’r nifer o bontydd er mwy cynyddu cynhwysedd llif y nant.

Mae disgwyl i hyn effeithio ar Ffordd Penylan, Gerddi Nant Lleucu, Gerddi Melin y Rhath, Gerddi Waterloo a Gerddi’r Rheilffordd.

‘Sesiwn galw heibio’

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn galw ar y cyhoedd i ddod i’w sesiynau galw heibio.

Dywedodd Tim England, Rheolwr Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, “mae’r sesiwn galw heibio yn gyfle i bobol siarad â’r cwmni a fydd yn adeiladu’r cynllun, i ddysgu sut y bydd yn lleihau’r perygl o lifogydd ac yn fanteisiol i’r ardal, ac mae’n gyfle hefyd iddynt holi cwestiynau posibl am y cam adeiladu.

“Hefyd rydym eisiau gweld pobl yn cyfrannu at greu’r gwaith dylunio newydd yng Ngerddi Melin y Rhath. Mae gan yr artist, Rubin Eynon, syniadau ardderchog ac mae’n awyddus i rannu’r rhain â’r gymuned.

Mae’r sesiwn yn cael ei gynnal ar Ionawr 11 rhwng 3yp a 7yh yng Nghlwb Rygbi Sant Pedr.