Jill Hailey-Harries yn galw am barchu gweithwyr gofal
Mae’n “warthus” fod cyn-reolwr clwb pêl-droed Abertawe’n cael arian mawr am fethu tra bod gweithwyr gofal yn “crafu byw” cyflogau pitw, meddai arweinydd crefyddol.

Mewn neges Blwyddyn Newydd, mae Is-Lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cefnogi bwriad y Llywodraeth i geisio sicrhau amodau tecach i weithwyr gofal yng Nghymru.

Ond mae Jill Hailey-Harries yn condemnio’r gwahaniaeth rhwng byd pêl-droed a byd gofal gyda chlwb Abertawe’n addo “pecyn sylweddol” o arian i’w cyn-reolwr, Bob Bradley, a gafodd y sac am fethiant ar ôl dim ond 85 niwrnod.

Roedd clwb arall, Crystal Palace, wedi rhoi £5 miliwn wrth sacio’u rheolwr nhwthau, Alan Pardew, a’r gwahaniaeth rhwng hynny a chyflogau gweithwyr gofal yn “adlewyrchiad truenus o werthoedd cymdeithas”.

Gweithwyr yn gadael

“Mae £5 miliwn yn fwy nag y byddai 350 o weithwyr gofal yn ei ennill, gyda’i gilydd, mewn blwyddyn,” meddai Jill Hailey-Harris.

“Yn ogystal â chyflogau isel, mae nifer o weithwyr gofal heb gytundeb oriau penodol, sy’n golygu na chan nhw dâl o gwbl os ydyn nhw’n sâl. Gall hefyd fod yn frwydr i sicrhau tâl am yr amser teithio o un apwyntiad i’r arall.

“Does dim syndod bod canran uchel o weithwyr gofal yn gadael y sector bob blwyddyn i gymryd swyddi eraill.”