Peth o'r anhrefn parcio yn Ysbyty Glangwili
Deciau dur tros-dro yw’r ateb diweddara’ i gael ei gynnig i argyfwng parcio yn un o brif ysbytai Cymru.

Fe fyddai hynny’n cynnig parcio aml-lawr yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ystyried atebion tymor hir.

Fe ddaeth yr alwad gan ddau gynghorydd lleol ar ôl cynnal trafodaethau gyda phenaethiaid y Bwrdd i geisio datrys y broblem sy’n arwain at ganslo apwyntiadau ac yn atal pobol rhag ymweld â chleifion ac yn creu problemau trafnidiaeth yng nghyffiniau’r ysbyty.

Galw am ddeciau parcio

Yr ateb tymor hir fyddai codi maes parcio aml-lawr, meddai Alun Lenny a Peter Hughes Griffiths, ond fe fyddai hynny’n cymryd blwyddyn ac yn mynd â llefydd parcio tros gyfnod yr adeiladu.

Maen nhw bellach yn awgrymu defnyddio deciau parcio dur, gan ddweud y byddai modd gosod y rheiny mewn wythnos.

“Fe fyddai hynny’n costio arian sylweddol i’r Bwrdd Iechyd, ond mae arian mawr yn cael ei wastraffu nawr am fod cymaint o gleifion yn methu eu hapwyntiad oherwydd problemau parcio,” meddai Alun Lenny.

  • Fe gyhoeddodd y Bwrdd Iechyd y mis diwetha’ eu bod yn ystyried camre eraill, gan gynnwys defnyddio maes parcio archfarchnad ar gyfer staff, amrywio oriau ymweld a chynnal llai o gyfarfodydd yn yr ysbyty.