Liz Saville Roberts (Llun Plaid Cymru)
Fe ddylai Llywodraeth Prydain roi’r gorau i recriwtio pobol ifanc o dan 18 oed i’r fyddin, yn ôl laid Cymru.

Mae aelodau seneddol o’r Blaid Lafur a’r SNP yn yr Alban hefyd wedi cefnogi’r alwad gan AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts.

Mae hi’n dweud ei bod yn “fater brys” bellach i’r Llywodraeth ailystyried ei pholisi o recriwtio plant.

Adroddiad gan elusen

Fe osododd Liz Saville Roberts gynnig ben bore yn Nhŷ’r Cyffredin i alw am newid ar ôl i adroddiad gan yr elusen Medact ddangos bod aelodau ifanc iawn o’r lluoedd arfog yn fwy tebyg o gael problemau meddwl, gan gynnwys camddefnydd alcohol, hunanladdiad a chyflyrau’n cael eu hachosi gan trawma.

Mae’r adroddiad yn awgrymu nad yw pobol ifanc iawn yn gallu rhoi eu cydsyniad llawn i fynd i’r lluoedd, gan eu bod yn fwy agored i effeithiau marchnata milwrol.

Condemnio

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae arbenigwyr iechyd plant a chyrff rhyngwladol wedi condemnio Llywodraeth Prydain am ei hagwedd.

“Y Deyrnas Unedig yw’r unig aelod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yr unig aelod o NATO a’r unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd sy’n recriwtio plant,” meddai.

“Er mawr gywilydd i San Steffan, dyw gwledydd fel Zimbabwe, Iran a Gogledd Corea ddim yn listio plant.”