Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr M4 nos Wener.

Roedd car BMW arian mewn gwrthdrawiad â cherddwr i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffordd 37 (Porthcawl) a chyffordd 38 (Margam) am oddeutu 7.20 neithiwr.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a gynigiodd gymorth wedi’r digwyddiad.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod neithiwr, ond mae hi ar agor unwaith eto y bore ma.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.