Mae’r ddau ddyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn 47 mlwydd oed yn Hafod-yr-Ynys, Caerffili, wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw.

Mae’r ddau, sy’n 35 a 32 oed, wedi’u cadw yn y ddalfa wedi’r ymddangosiad.

Yn y cyfamser, mae’r dyn 47 oed a gafodd ei drywanu yn ei frest nos Fawrth, Rhagfyr 27, yn dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Mae mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog.