Maes parcio llawn Ysbyty Glangwili
Mae trafodaethau brys i’w cynnal yn y flwyddyn newydd i geisio lleddfu’r problemau parcio difrifol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Gan fod y meysydd parcio yn aml yn orlawn, mae llawer o gleifion allanol yn colli apwyntiadau, tra bod ceir sy’n parcio’n anghyfreithlon yn achosi tagfeydd ar ddwy briffordd brysur gyfagos ac anghyfleustra difrifol i drigolion lleol.

Mae Cyngorwyr Sir Plaid Cymru, sydd eisoes wedi cwrdd â Bwrdd Iechyd Hywel Dda sawl gwaith, yn dweud bod y sefyllfa yn parhau’n argyfyngus er gwaethaf rhywfaint o ddarpariaeth ychwanegol.

“Dangosodd arolwg gan y Bwrdd Iechyd bod dros 20% o gleifion yn methu apwyntiadau oherwydd problemau parcio,” meddai’r Cynghorydd Alun Lenny.

“Tra’n falch iawn bod mwy o glinigau’n cael eu cynnal yng Nglangwili, mae’n hollol annerbyniol bod cymaint o gleifion, ar ôl misoedd o aros i weld arbenigwr, yn gorfod gadael eu ceir ar ochr y ffordd neu hyd yn oed mynd adref.

“Mae hefyd yn broblem ddifrifol i staff ac i ymwelwyr yn ystod oriau brig.”

Cwynion

Mae cynghorwyr Caerfyrddin yn derbyn llif cyson o gwynion gan bobol sy’n byw ar ystadau a strydoedd cyfagos sy’n cael eu blocio gan geir pobl sy’n ymweld â’r ysbyty.

“Er mai maes parcio aml-lawr fyddai’r ateb, byddai’n cymryd dros flwyddyn i’w adeiladu, ac yn ystod yr amser yna byddai dros 100 o lefydd parcio yn cael eu colli,” meddai Alun Lenny.  “Yn ein cyfarfod gyda Hywel Dda yn gynharach y mis hwn, holwyd os gellid ystyried gosod deciau parcio dros dro.

“Gall deciau dur o’r fath gael eu codi mewn wythnos. Byddai hynny’n costio arian sylweddol i’r Bwrdd Iechyd, ond mae arian mawr yn cael ei wastraffu nawr am fod cymaint o gleifion yn methu eu hapwyntiad oherwydd problemau parcio.”

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn trafod defnyddio maes parcio archfarchnad Morrison’s lleol fel safle Parcio a Theithio i staff. Yn y cyfamser, mae trafodaethau hefyd yn parhau gyda chwmni Rheilffordd y Gwili, sy’n berchen ar ddarn mawr o dir garw ger yr ysbyty, i’w droi’n faes parcio fyddai at ddefnydd rhai o staff Glangwili.