Mae Plaid Cymru yn cyhuddo swigen San Steffan o fod “allan o gysylltiad â bywyd y tu allan i Lundain” wrth i gost cynyddol petrol gael ei anwybyddu.

Ym  mis Tachwedd, yr oedd pris petrol ar ei lefel uchaf ers dwy flynedd.  Mae’r ffigyrau diweddara’n dangos ei fod wedi gostwng ddwy geiniog ers ei lefel uchaf, ond ar 114.23c y litr, mae er hynny 11 y cant yn uwch nag y bu ar ddechrau’r flwyddyn, sydd yn codi cost llenwi car teulu arferol o fwy na £6.

Rhybuddiodd yr AA mai dal i godi wnaiff prisiau wedi i nifer o’r gwledydd sy’n cynhyrchu olew gytuno i dorri i lawr ar gynhyrchiant er mwyn chwyddo prisiau.

Obsesiwn 

Mae Aelod Senddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, yn cyhuddo swigen San Steffan o fod ag “obsesiwn afiach gyda’r hyn maent yn ddarllen yn y  London Evening Standard” ar draul y problemau go-iawn y mae angen mynd i’r afael â hwy ledled gwledydd Prydain.

Ar draws y Deyrnas Gyfunol, mae 90% o siwrneiau teithwyr yn cael eu gwneud mewn car, ond yn Llundain mae’r ffigwr hwn yn cwympo i 38%.

“Mae swigen San Steffan wedi ei hynysu’n llwyr oddi wrth fywyd y tu allan i Lundain,” meddai Jonathan Edwards, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys ac AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Cododd pris llenwi car teulu arferol i’r entrychion o 11% ers dechrau’r flwyddyn, a chyda mwy o godiadau i ddod a gwerth y bunt yn plymio, bydd pobol gyffredin yn diodde’ toriad llym yn swm yr arian fydd ganddyn nhw i’w wario.

“Ond does gan wleidyddion yn San Steffan ddim syniad. Mae ganddynt obsesiwn afiach gyda’r hyn maent yn ddarllen yn y London Evening Standard. Dydyn nhw ddim mewn cysylltiad â’r materion sy’n effeithio ar bobl go-iawn y tu allan i swigen San Steffan.”