Lewis Davies (llun gan Heddlu De Cymru)
Mae bachgen 14 oed a fu ar goll yng Nghaerdydd wedi cael ei ddarganfod yn fyw ac iach.

Roedd Lewis Davies wedi cael ei weld ddiwethaf yn ei gartref yn Grangetown am 8.30 neithiwr, ac roedd plismyn yn bryderus am ei ddiogelwch.

Fe fuon nhw’n apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.