Fe fydd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthod talu ei thrwydded deledu yn y flwyddyn newydd oni bai y bydd darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru.

Mae Heledd Gwyndaf, o Dalgarreg yng Ngheredigion, yn galw ar aelodau eraill a chefnogwyr y mudiad i wneud yr un fath er mwyn pwyso am reolaeth dros ddarlledu i’r Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae adolygiad presennol y Llywodraeth o S4C yn cynnig cyfle i sicrhau hynny, meddai, gyda’r Gweinidog Guto Bebb yn Swyddfa Cymru wedi datgan y bydd yn rhaid i’r adolygiad ystyried datganoli darlledu i Gymru.

Yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, cyfrannodd Llywodraeth Prydain £6.7 miliwn i S4C mewn grant o’r adran ddiwylliant, gyda gweddill cyllideb y sianel yn dod o’r ffi drwydded.

Mewn neges flwyddyn newydd at gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith, dywed Heledd Gwyndaf:

“Mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus ac mae diffyg difrifol darlledu yn Gymraeg ar y radio masnachol a theledu lleol sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Gymru. Mae diffyg democrataidd mawr yn y wlad oherwydd yr holl ddarlledwyr Prydeinig sy’n ein trin fel rhan o Loegr.

“Yn ddiamau, allwn ni ddim parhau â chyfundrefn sy’n golygu trafodaethau blynyddol gan Weinidogion yn Llundain am dynged ein hunig sianel deledu Gymraeg.

“Nawr yw’r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Mae angen manteisio ar y cyfle hwn. Mae angen inni wneud safiad, nid yn unig er lles S4C ond lles yr iaith a Chymru gyfan.”