Jo Stevens (llun o'i gwefan)
Mae Llafur wedi condemnio Swyddfa Cymru am wario hanner miliwn o bunnoedd mewn chwe blynedd ar staff tros-dro.
Ac, yn ôl eu llefarydd ar Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’r polisi yno’n nodweddiadol o agwedd y Ceidwadwyr at waith a chyflogau.
Fe gafodd Jo Stevens wybodaeth yn dangos bod Swyddfa Cymru wedi gwario £500,000 ar y staff tros-dro mewn cyfnod pan oedden nhw’n diswyddo 13 o weithwyr parhaol.
Yn y flwyddyn 2014-15, meddai, fe fyddai’r gwario ar staff tros-dro wedi cynnal 11 o swyddi parhaol.
‘Nodweddiadol’
“Mae’n nodweddiadol o gamreoli difrifol y Ceidwadwyr,” meddai Jo Stevens. “Mae’n arbed ffug ac yn rhoi mwy o bwysau ar bawb, gyda gweithwyr tros-dro’n cael amodau gwaith a chyflogau gwaith a dim sicrwydd swyddi.”
Roedd y drefn yn nodweddiadol o weledigaeth y Ceidwadwyr “o fannau gwaith gyda chyflogau isel, dim oriau penodol a dim diogelwch”.
Ond mae Swyddfa Cymru wedi ateb trwy ddweud bod angen y staff dros-dro i lenwi bylchau brys ac roedd y cyfnod yn cynnwys digwyddiadau eithriadol fel Cynhadledd Nato yng Nghasnewydd, pan oedd angen cymorth am gyfnod.
- Ychydig tros wythnos yn ôl fe gafodd Jo Stevens ateb seneddol yn dangos bod Swyddfa Cymru wedi cynyddu’r gwario ar swyddogion cyfathrebu o tua 50% yn yr un cyfnod.