Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn arall, faint ydych chi’n ei gofio am benawdau a digwyddiadau, hwyl a helyntion 2016?
Wel, dyma’ch cyfle i chi brofi faint sydd wedi aros yn y cof dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghwis Mawr y Flwyddyn Golwg360!
Mae’r categorïau rywfaint yn wahanol a’r cwis ychydig yn hirach eleni, gyda 60 o gwestiynau yn profi eich gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru, chwaraeon, rhyfeddodau’r byd, y celfyddydau a straeon Prydeinig.
Cofiwch roi gwybod i ni fan hyn, ar Facebook neu Twitter beth oedd eich sgôr. Does dim gwobr – ond cewch frolio am eich gwybodaeth!