Cwrs Cas-gwent lle bydd y ras fawr (CCA3.0)
Y cantorion Bryn Terfel a Rebecca Evans fydd yn arwain yr anthem cyn ras geffylau fwya’ Cymru y prynhawn yma.

Mae disgwyl miloedd o bobol i gwrs rasio Cas-Gwent ar gyfer Grand National Coral Cymru ychydig cyn tri o’r gloch.

  • Native River yw’r ffefryn o blith yr 20 ceffyl sy’n dechrau ond mae yna eraill hefyd yn cael eu ffafrio’n gry’ – gan gynnwys dau sy’n mynd am fathau gwahanol o hatric.
  • Fe fydd enillydd y llynedd, Mountainous, yn ceisio ennill am y trydydd tro, ar ôl dod yn gynta’ yn 2013 hefyd.
  • Pe bai Vicente’n ennill, fe fyddai’n rhoi trydedd buddugoliaeth i’r hyfforddwr, Paul Nicholls, a oedd hefyd wedi ennill y ras yn joci 29 mlynedd yn ôl.

Y Grand National Cymreig yw ras ddruta’ Cymru, gyda gwobrau o £150,000.