Tai ar werth yn Llundain lle mae'r prisiau ucha' (Llun parth cyhoeddus)
Mae ystadegau newydd yn dangos bod y farchnad dai yng Nghymru ymhlith y gwana’ trwy wledydd Prydain.

Cymru yw’r ail o’r gwaelod o ran gwerth tai cyffredin a’r ail o’r gwaelod o ran cynnydd prisiau yn ystod 2016.

Ac mae dwy o drefi Cymru mewn arolwg newydd ymhlith y rhai lle mae prisiau tai’n cael eu gostwng fwya’.

Manylion

Fe ddaw’r gwaith ymchwil gan y wefan dai Zoopla, sy’n cadw llygad ar y farchnad dai fesur rhanbarth economaidd trwy wledydd Prydain:

  • Dim ond 3.8% oedd y cynnydd ym mhrisiau tai Cymru yn ystod 2016 – dim ond Gogledd Lloegr oedd yn is ar 2.41% tra bod prisiau yn nwyrain Lloegr wedi codi 11.5%.
  • Roedd pris tai ar gyfartaledd yng Nghymru yn £179,096 – dim ond yn Swydd Efrog a Humber yr oedd prisiau’n is ar £173,062 tra bod pris tai ar gyfartaledd yn Llundain yn £680,593.

Gostwng prisiau

Y ddwy dre’ sydd yn y tablau am y gostyngiadau pris mwya’ yw Wrecsam a Hwlffordd.

  • Wrecsam yw’r pedwerydd ar restr y trefi lle mae mwya’ o brisiau’n cael eu gostwng – tros 40% o dai.
  • Hwlffordd yw’r pumed ar restr y trefi lle mae’r gostyngiadau mwya’ – mwy nag £20,000 ar gyfartaledd.

Yn ôl llefarydd ar ran Zoopla, mae gostwng prisiau yn arwydd o wendid y farchnad – trwy wledydd Prydain yn gyffredinol, meddai Lawrence Hall, roedd y sefyllfa wedi aros yn gyson o gymharu â 2015.