Kane Steele (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae heddlu yng Nghaerdydd yn chwilio am ddyn sydd wedi bod ar goll ers Noswyl Nadolig.

Does neb wedi gweld Kane Steele, 20 o Bontprennau, ers tua 9yh ar Ragfyr 24. Bryd hynny, roedd yn gadael tafarn y Village Pub ym Mhentwyn, wedi treulio amser gyda ffrindiau.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sy’n gwybod lle mae Kane Steele, neu wedi’i weld i gysylltu ar y rhif 101, neu i ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.