Ambarel nid dyn eira (cynnyrch cwmni Honest Kind)
Mae disgwyl un o’r dyddiau Nadolig cynhesa’ eto yng Nghymru … ond fydd hi ddim yn braf.
Yn ôl y rhagolygon, fe allai’r tymheredd godi i gymaint â 14 gradd yn ystod y dydd … yn agos at y tymheredd ucha’ sydd wedi ei gofnodi, o fwy na 15.
Ond mae’r proffwydi tywydd hefyd yn addo diwrnod glawog a gwyntog tros y rhan fwya’ o’r wlad.
Y disgwyl yw y bydd hi’n dechrau’n gymylog gyda glaw mân cyn i law trymach a gwyntoedd cryfion ledu o’r Gogledd-orllewin.
Mae cyfyngiadau cyflymder ar Bont Britannia rhwng Ynys Mon a’r tir mawr oherwydd y gwynt ac mae hen Bont Hafren wedi bod ynghau.
Haul yn Lloegr, storm yn yr Alban
Fe allai fod hyd yn oed yn gynhesach mewn rhannau o Loegr, lle mae disgwyl cyfnodau braf o heulwen.
Ond mae storm arall wedi taro’r Alban, yn enwedig yr ynysoedd mwya’ gogleddol, lle mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 90 milltir yr awr.