Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ger Aberpennar y bore ma.

Cafodd dyn a dynes eu cludo i’r ysbyty ar ôl i’w car Citroen Berlingo arian daro cylchfan ger ysbyty Aberpennar rhwng Cwmbach ac Aberpennar am oddeutu 12.45yb.

Cafodd y gyrrwr 27 oed ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau, tra bod dynes 26 oed oedd yn teithio yn y car wedi cael anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.