George North (Llun: PA/David Davies)
Mae disgwyl i gorff Rygbi’r Byd holi Undeb Rygbi Lloegr (RFU) ymhellach am y ffordd y gwnaethon nhw fynd ati i ymdrin â Chlwb Rygbi Northampton yn sgil helynt cyfergydion George North.

Ni chafodd y clwb eu cosbi am fethu â thynnu asgellwr Cymru oddi ar y cae er iddo gael ergyd i’w ben a honiadau ei fod e wedi cael ei daro’n anymwybodol yn ystod gêm yn erbyn Caerlŷr ar Ragfyr 3.

Mewn datganiad, dywedodd Rygbi’r Byd eu bod nhw’n “siomedig” na chafodd eu rheolau eu dilyn gan y clwb.

Ar ôl yr ergyd gan Adam Thompstone, pasiodd George North Asesiad Anaf i’r Pen, ac fe arhosodd ar y cae.

Ond dywedodd Clwb Rygbi Northampton nad oedd tystiolaeth fideo’n ddigonol i’w dynnu oddi ar y cae, ac roedden nhw’n gwadu ei fod e’n anymwybodol ar unrhyw adeg.

Ond daeth panel disgyblu i’r casgliad nad oedd meddygon ar fai am y digwyddiad, er y dylid fod wedi ei dynnu oddi ar y cae.

Mewn datganiad, dywedodd Rygbi’r Byd: “Prif flaenoriaeth Rygbi’r Byd yw lles chwaraewyr a’n prif bryder yw lles George a’r holl chwaraewyr.

“Mae’n siom, felly, fod diffyg cydymffurfio â phrotocol anafiadau i’r pen y gamp wedi arwain, mae’n debyg, at George yn aros ar y cae pan ddylai fod wedi ei dynnu oddi arno ar unwaith ac yn barhaol.”

Yn ôl y corff, dylai’r awgrym ei fod e wedi’i daro’n anymwybodol fod wedi bod yn ddigon i’w dynnu oddi ar y cae ar unwaith heb asesiad o anaf i’r pen.

Ni chafodd George North ei gynnwys yn nhîm Northampton ar gyfer y gêm yn erbyn Sale nos Wener.