Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun masnachu i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae angen cynllun er mwyn mynd i’r afael â “gorddibyniaeth” Cymru ar allforio nwyddau i’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi ymgyrchu dros bleidlais Brexit yn y refferendwm ym mis Mehefin.

Mae Cymru’n allforio 67.7% o’i nwyddau i’r Undeb Ewropeaidd, ac mae angen strategaeth economaidd newydd ar y wlad i allforio i wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl y Ceidwadwyr.

Cymru yw’r wlad sy’n allforio fwyaf i Ewrop, o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig – y ffigwr i holl wledydd Prydain gyda’i gilydd yw 49.4%.

Cynllun ar y gweill

Mae golwg360 ar ddeall fod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gyhoeddi papur yn y flwyddyn newydd a fydd yn amlinellu cynlluniau ar gyfer Brexit.

“Dyw hyn ddim am dorri lefel y masnachu ag Ewrop,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod economi Cymru mor wydn ac agored â phosib wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd o fasnach rydd.

“Mae’n glir bod dull y Llywodraeth Lafur yn methu, ac mae gorddibyniaeth economi Cymru ar allforio i’r Undeb Ewropeaidd wedi dod yn broblem fawr ar gyfnod pan fo gennym ni’r cyfle i ehangu’r marchnadoedd rydym yn eu hallforio.

Yn ôl Russell George, mae gan Gymru “gyfle hanesyddol” bellach ers ethol Donald Trump yn Arlywydd America, sydd wedi “dangos” fod ganddo ddiddordeb i fasnachu â’r Deyrnas Unedig.

“Mae 2017 yn gyfle i ddatblygu strategaeth economaidd newydd, a bydd rhaid i hon gynnwys cynllun i fanteisio ar gyfleoedd Brexit drwy hybu masnachu â gweddill y byd.”

Ymateb ‘clir a chwim’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae ein hymateb i Brexit wedi bod yn glir ac yn chwim.

“Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi ymweld â’r Unol Daleithiau i gyfarfod ag arweinwyr busnes i drafod posibiliadau ôl-Brexit i Gymru.

Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i ysgogi allforion i farchnadoedd newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

“Rydyn ni hefyd yn gweithio er mwyn sicrhau bod ein heconomi’n parhau i dyfu ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd drwy adeiladu ar y lefelau uchaf o fuddsoddiad i mewn i greu swyddi o’r safon uchaf.”