George North yn sgorio cais i Northampton
Heno bydd asgellwr Cymru George North yn chwarae ei gêm gyntaf i Northampton ers cael ei daclo’n anymwybodol ddechrau’r mis.

Bydd Northampton yn chwarae gartref yn Franklin’s Gardens yn erbyn Sale Sharks gyda’r gic gyntaf am 19:45.

Tra’n chwarae yn erbyn Caerlŷr ar Ragfyr 3 yn Uwch Gynghrair Aviva  Lloegr, fe gafodd George North ei daclo yn ymwybodol a dioddef cyfergyd am y pumed gwaith yn ei yrfa.

Mae George North yn dychwelyd i’r cae gyda nifer yn pryderu ynglŷn â’i iechyd hir dymor oherwydd effaith y cyfergydau.

Cyfergydau

Roedd beirniadaeth gref ddydd Mercher pan wnaeth Northampton gael eu clirio am dorri’r rheolau trwy adael i George North ddychwelyd i’r gêm.

Mae hyn yn dilyn argymhelliad yr arbenigwr meddygol Barry O’Driscoll y dylai George North, sydd ond yn 24, roi’r gorau i’r rygbi er lles ei iechyd hir dymor.

“[Petai George North yn] chwaraewr amatur fe fyddech yn dweud ‘does dim rhaid chwarae eto o gwbl’,” meddai Barry O’Driscoll wrth BBC Radio Wales.

“Ond fel chwaraewr proffesiynol… nid yw mor syml. Ar ôl pedwar neu bump [cyfergyd] rydych yn ystyried ymddiswyddo. Ond dw i’n deall yn iawn ei fod, oherwydd ei ymrwymiadau proffesiynol, yn llai awyddus i wneud hynny”