Yr olygfa wedi'r ddamwain (Llun: PA)
Mae gwraig un o’r ddau Gymro a gafodd eu lladd gan lorri ddiffygiol wedi dweud bod y cyfnod ers y digwyddiad yn “ddychrynllyd”.

Fe gafodd perchennog a mecanic cwmni lorïau eu dyfarnu’n euog o ddynladdiad pedwar o bobol yn sgil y digwyddiad yn ninas Caerfaddon.

Fe ddywedodd gwraig un o’r ddau ddyn o Abertawe a laddwyd, Sian Vaughan, y byddai ei gŵr, Stephen, wedi galw’r ddau ddyn yn “gowbois”.

‘Dychrynllyd’

Fe ddywedodd wrth raglen leol y BBC yng Nghaerfaddon bod y cyfnod ers ei phriodas chwe mis cyn y digwyddiad wedi bod yn “ddychrynllyd”.

“Roedd gorfod treulio pen-blwydd ein priodas ni ar fy mhen fy hun mor wahanol i’r hyn yroedden ni wedi ei gynllunio,” meddai.

Philip Allen, 52, oedd y Cymro arall a fu farw.