Mae’r heddlu wedi arestio dyn 36 oed yn Llechryd, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi bod yn defnyddio bar metal i wneud difrod i gerbydau oedd wedi’u parcio.

Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd ar ôl cael ei arestio gan Heddlu Dyfed Powys yn dilyn y digwyddiad am tua 3:50 prynhawn yma.

Fe welodd y darlithydd Ifan Morgan Jones, ddyn gyda’i ddwylo yn yr awyr ar bont Llechryd a’r heddlu yn ei gwmpasu.

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.