Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i leidr ddwyn gwerth bron £1,000 o anrhegion Nadolig o dy teulu yn Tonypandy.

Rhwng 7.30 a 11.30 bore ddoe mi wnaeth y lleidr dorri mewn i trwy’r drws cefn, gan gymryd ei amser wrth ddadlapio’r anrhegion a dewis yr eitemau drutaf i’w dwyn.

Cafodd eitemau yn cynnwys tabledi Android, cluniadur, persawr ac alcohol eu cymryd.

Mae’n ddigon posib yr oedd angen car i gludo’r eitemau cafodd eu dwyn.