Tata, Port Talbot (Llun: Ben Birchall/PA)
Mae adroddiadau yn awgrymu bod Tata wedi bod yn cael trafferth wrth geisio cytuno ar gynllun pensiwn gyda’u gweithwyr.

Mae gweithwyr dur Port Talbot wedi cyfleu pryder ynglŷn â chytundeb rhwng undebau a’r cwmni fyddai’n golygu bod Tata yn parhau i fuddsoddi yn y maes dan yr amod bod gweithwyr yn derbyn pensiwn llai.

Ni fydd undebau yn gwneud argymhelliad i’r gweithwyr ynglŷn â derbyn y penderfyniad neu beidio.

“Nawr yn fwy nag erioed, ar ôl cymaint o fisoedd o ansicrwydd, mae’r gweithwyr a’u teuluoedd angen gwybod eu bod yn derbyn y dêl gorau posib iddyn nhw,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies.

“Rhaid i Carwyn Jones ddefnyddio ei ddylanwad er mwyn symud y proses yn ei blaen a galluogi mai dyma fydd yn digwydd.”