Llun: S4C
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd Llywodraeth Prydain yn cadw at ei gair i “ddiogelu” eu grant ar gyfer S4C, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol David Davies wedi datgan ei fod yn “hyderus” y bydd gweinidogion yn sicrhau dyfodol ariannol y sianel.

Yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, cyfrannodd Llywodraeth Prydain £6.7 miliwn i S4C mewn grant o’r adran ddiwylliant, gyda gweddill cyllideb y sianel yn dod o’r ffi drwydded y BBC.

Mae’r Ceidwadwyr “fel plaid wedi gwneud ymrwymiad maniffesto clir i ddiogelu’r arian sy’n mynd o’r Llywodraeth i S4C” meddai David Davies ac mae’n “ffyddiog y bydd holl Weinidogion y Llywodraeth … yn cadw at eu gair o ran y gyllideb.”

Mae hefyd yn “hyderus” y byddwn yn “clywed yn fuan y bydd [£6.7 miliwn] arian y sianel yn ddiogel ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf”.

‘Creu ansicrwydd diangen’

Mae gwleidyddion yn disgwyl clywed yn fuan am fanylion adolygiad y sianel caiff ei gynnal yn y flwyddyn newydd, sy’n  debygol o ystyried ymestyn cylch gwaith y sianel i gynnwys platfformau eraill a datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i’r Cynulliad.

“’Dy’n ni ddim yn deall pam fo’r Llywodraeth yn dal i drafod ei grant ar gyfer y flwyddyn nesa, cyfnod pan fydd yr adolygiad yn mynd rhagddi. Maen nhw’n creu ansicrwydd diangen,” meddai Carl Morris cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Fydden nhw byth yn meiddio torri eu haddewid maniffesto eto, ac yn sicr, allen nhw ddim rhagfarnu canlyniad yr adolygiad. Yn y pendraw, ’dyn ni’n credu bod rhaid datganoli darlledu i Gymru er mwyn cael system sy’n llesol i’r Gymraeg a holl gymunedau Cymru.”