Dafydd Elis-Thomas Llun: Plaid Cymru
Mae un o etholwyr Dwyfor Meirionnydd, a arferai fod yn asiant i’r Aelod Cynulliad Dafydd Elis-Thomas, wedi mynegi ei “siom” ei fod wedi penderfynu cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru yn y pumed Cynulliad.

Yn ôl Gwerfyl Jones, a arferai weithio i Blaid Cymru yng Nghaerdydd ac sydd wedi adnabod Dafydd Elis-Thomas ers yr 1970au, “mae wedi bod yn siom fawr imi, ac i nifer o bobol eraill dw i’n eu nabod yn Nwyfor Meirionnydd.

“Rydan ni wedi ymgyrchu dros ymgeisydd Plaid Cymru ac nid dros y blaid Lafur. A doeddem ni ddim wedi clywed ynghynt am ei fwriad i gydweithio â Llafur,” meddai wrth golwg360.

“Mae o wedi sôn bod o eisiau llywodraeth gref, ond dw i’n meddwl fod angen gwrthblaid gref hefyd, a dw i ddim  yn gwybod sut allwch chi ymrwymo i gefnogi plaid arall am bedair blynedd heb wybod yn union be maen nhw’n bwriadu’i wneud,” meddai Gwerfyl Jones.

‘Cwbl amlwg’

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas wrth golwg360: “roedd o’n gwbl amlwg yn fy neges etholiad ’mod i’n bwriadu cydweithio gyda chyngor Gwynedd a chydweithio gyda gweinidogion Cymru a dyna ydw i wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd er mwyn ceisio datblygiadau yn fy etholaeth.”

Esboniodd ei fod wedi dod i’r penderfyniad i gefnogi Llafur yn dilyn cyfarfod diweddar â’r Prif Weinidog ac esboniodd mai dyma fydd natur y drefn o hyn allan:

“Mi fydda i’n cael sgwrs efo’r llywodraeth am y busnes ar ddechrau’r wythnos fel arfer, ac yna mi fydda i’n gallu cadarnhau a fydda i ar gael i gefnogi os oes angen.”

Dywedodd ei fod am sicrhau “mwyafrif cadarn” i’r llywodraeth oherwydd, “mae ’na beryg i lais Cymru gael ei golli os nad ydan ni’n unedig.”

Cadarnhaodd na fyddai ei benderfyniad yn arwain at ddiswyddiadau yn swyddfa ei etholaeth.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Etholaeth, Dyfrig Siencyn, wedi dweud wrth golwg360 na fyddan nhw’n cyfarfod tan fis Ionawr, pan fydd disgwyl iddyn nhw drafod oblygiadau ei benderfyniad.