Llifogydd yn Nahlybont ger Bangor ym mis Ionawr eleni Llun: Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd £136 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu tai fforddiadwy, cynlluniau lliniaru llifogydd a phrosiectau adfywio ar draws Cymru.

Daw hyn fel rhan o Gyllideb derfynol 2017-18, ac mae disgwyl i’r Cynulliad Cenedlaethol gynnal pleidlais arno ar 10 Ionawr 2017.

O’r arian hyn, bydd £33m yn mynd at gefnogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i reoli llifogydd, sy’n ychwanegol at y cynllun rheoli arfordiroedd gwerth £150m fydd yn dechrau yn 2018.

Bydd £53m yn mynd at gyflenwi 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

A bydd £50m yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglenni adfywio cymunedau difreintiedig Cymru a phrosiectau ehangach fel y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, y Metro a’r bargeinion dinesig.

‘Uchelgeisiol’

“Mae Cyllideb derfynol 2017-18 yn un uchelgeisiol ac mae’n cynnig sefydlogrwydd mewn cyfnod o ansicrwydd,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

“Ry’n ni wedi rhoi hwb ariannol i’r meysydd hynny sydd angen cymorth ychwanegol fwyaf fel lliniaru llifogydd ac adfywio cymunedau.”

“Bydd yr arian hefyd yn canolbwyntio ar gyflymu ymrwymiadau presennol fel sicrhau 20,000 o dai fforddiadwy.

“Bydd y cyllid hwn o fudd i unigolion a theuluoedd a bydd yn helpu i gryfhau cymunedau ledled Cymru,” meddai wedyn.