Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i gyhoeddiad Dafydd Elis-Thomas drwy ddweud eu bod yn parhau i gynnal “adolygiad cyson” o’u cytundeb â Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ddoe ei fod yn bwriadu cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru yn ystod tymor y pumed Cynulliad, a hynny ar ôl gadael Plaid Cymru ym mis Hydref i sefyll fel Aelod Annibynnol yn Nwyfor Meirionnydd.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas wrth y Post Cyntaf BBC Radio Cymru bore ma ei fod am “gydweithio” â Llywodraeth Cymru er mwyn creu llywodraeth “cadarn a sefydlog.”

Cytundeb Plaid Cymru

Ym mis Hydref, daeth Plaid Cymru i gytundeb â Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r gyllideb, ond fe wnaethant rybuddio y gallai’r cytundeb hwnnw ddod i ben os oes Aelod Cynulliad arall o du allan i Lafur yn cael ei benodi i Lywodraeth Cymru.  Mae Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes yn Ysgrifennydd Addysg.

Yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru; “heddiw, bydd fersiwn derfynol y gyllideb a gytunwyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru’n cael ei chyhoeddi.

“Mae cydweithio adeiladol wedi arwain at greu’r gyllideb orau mae Cymru wedi ei gweld ers blynyddoedd. Dewisodd Dafydd Elis-Thomas i beidio cymryd rhan yn y gwaith hwnnw,” meddai.

“Rydym wedi cadw’r cytundeb gyda Llywodraeth Cymru dan adolygiad cyson ac rydym yn bwriadu ei drafod yn ein cyfarfod grŵp nesaf yn y Flwyddyn Newydd. Edrychwn ymlaen at weld ffrwyth y cytundeb hwn yn cael ei gyhoeddi yn y gyllideb derfynol.”

‘Cefnogi’

‘Cefnogi’ Llywodraeth Cymru ydy bwriad Dafydd Elis-Thomas, ac mae hynny’n golygu y bydd gan y Llywodraeth fwyafrif gweithredol yn y Senedd.

Mae ’na ddyfalu y gallai gael ei benodi wedi hynny i’r llywodraeth, er na gadarnhaodd Dafydd Elis-Thomas hynny wrth raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru y bore yma.

Dywedodd ei fod am sicrhau llywodraeth “sefydlog” mewn cyfnod o ansicrwydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd a datganoli pwerau cyllido newydd i Gymru.

“Be’ ydi diben datganoli os nag ydan ni fel aelodau etholedig yn cydweithio er lles Cymru a’r ardaloedd da ni yn eu cynrychioli,” meddai wrth y Post Cyntaf.