Mae disgwyl i ddau ddyn fynd gerbron ynadon yr wythnos hon ar amheuaeth o ladd dyn arall gafodd ei achub o lyn ar gwrs golff ym mis Chwefror.

Bydd dyn 25 oed o Lyn-nedd a dyn 47 oed o Aberdâr yn mynd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Iau gan wynebu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol.

Cafodd corff Gareth Pugh, 29 oed, ei dynnu o lyn ar gwrs golff Peterstone yng Nghasnewydd ar Chwefror 11 eleni.

Cafodd ei dynnu o’r dŵr gan wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’i gludo i ysbyty yng Nghaerdydd lle cafodd ei farwolaeth ei gyhoeddi.