Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas Llun: O'i gyfrif Twitter
Mae wedi dod i’r amlwg fod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn bwriadu cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn ôl adroddiadau BBC Cymru.

Mae hyn yn golygu y bydd gan y Llywodraeth fwyafrif gweithredol yn y Senedd.

Fe wnaeth Dafydd Elis-Thomas, sy’n Aelod Cynulliad yn Nwyfor-Meirionnydd, gyhoeddi ym mis Hydref ei fod yn gadael Plaid Cymru i sefyll fel aelod annibynnol.

Swydd llywodraeth?

Mae yna ddyfalu y gallai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas gael ei benodi i’r llywodraeth.

Yn yr un mis, daeth Plaid Cymru i gytundeb â Llafur er mwyn cefnogi’r gyllideb.

Ond mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd y cytundeb hwnnw’n dod i ben os oes Aelod Cynulliad arall o du allan i Lafur yn cael ei benodi yn weinidog i Lywodraeth Cymru, lle mae Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes yn Ysgrifennydd Addysg.

Enillodd Llafur 29 o seddi yn yr etholiad ym mis Mai, dwy yn fyr o gael mwyafrif.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb  Dafydd Elis-Thomas a Phlaid Cymru.