Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael dirwy o £15,692 am arddangos pabïau yn ystod y gêm yn erbyn Serbia ym mis Tachwedd.

Daw’r gosb gan y bwrdd rhyngwladol FIFA sy’n barnu bod gwisgo ac arddangos pabïau yn cyfleu symbolau gwleidyddol.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr hefyd wedi cael dirwy o £35,308, yr Alban £15,692 ac Iwerddon £11,769 am arddangos y pabi yn ystod gemau ar benwythnos y cofio ym mis Tachwedd.

‘Gwahardd yn llwyr’

Dywedodd Claudio Sulser, cadeirydd pwyllgor disgyblaeth FIFA: “gyda’r penderfyniadau hyn, nid ein bwriad yw barnu na chwestiynu coffadwriaethau penodol am ein bod yn parchu’n llwyr bwysigrwydd digwyddiadau o’r fath yn y gwledydd priodol.

“Fodd bynnag, o gofio fod angen i’r rheolau gael eu rhoi ar waith mewn modd niwtral a theg ar draws 211 o gymdeithasau sy’n aelodau o FIFA mae arddangos, ymysg eraill, unrhyw symbol gwleidyddol neu grefyddol wedi’i wahardd yn llwyr,” meddai.