Disgyblion ysgol Grangetown yn codi arian at apel Yemen
Mae un gymuned yng Nghaerdydd wedi codi mwy na £5,000 at apêl Yemen wrth i Ysgol gynradd Grangetown gyfrannu rhoddion eu cyngherddau Nadolig at yr achos.

Daw hyn yn dilyn apêl gafodd ei lansio’r wythnos diwethaf gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) i helpu’r tua saith miliwn o bobol sy’n wynebu newyn yn Yemen.

Fe gymerodd Ysgol Grangetown at yr her am fod cymhorthydd eu hysgol, Nadwa Said, yn dod o Yemen lle mae ei rhieni’n parhau i fyw yno.

Yn ôl Nadwa Said, “mae yna gymuned Yemeni gref yma yng Nghaerdydd, ac rydyn ni’n bryderus fod pethau yn gwaethygu yno.

“Rwy’n gwybod fod pobol yn Yemen yn byw mewn ofn parhaus oherwydd y rhyfela a’r trafferthion economaidd, ac maen nhw’n awr yn wynebu newyn eithafol ar ben hynny,” meddai.

‘Argyfyngus’

Un arall sy’n wreiddiol o Yemen ond yn byw yng Nghymru yw Ahmed Ali. Symudodd i Gymru pan oedd yn 12 ond mae llawer o’i deulu a ffrindiau yn dal i fyw yn Yemen.  Mae’n disgrifio’r sefyllfa yn y wlad yn un “gwbl argyfyngus” lle mae “iechyd pobol yn dirywio’n gyflym o ganlyniad.”

O fewn 24 awr o lansio’r apêl, cafodd mwy na £5miliwn ei godi ym Mhrydain ac mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cefnogi’r achos gan ddweud bod angen “mwy o gyfraniadau nawr er mwy atal miloedd yn fwy o farwolaethau.”

‘Plant sy’n wynebu’r risg mwyaf’

Meddai Cadeirydd DEC Cymru, Kirsty Davies-Warner: “Mae’r amser wedi dod i achub bywydau yn Yemen cyn iddi fod yn rhy hwyr. Plant sy’n wynebu’r risg mwyaf o newyn – mae bron i hanner miliwn o fabanod a phlant ifanc angen triniaeth ar frys oherwydd diffyg maeth.

“Mae ymlediad colera mewn rhannau o’r wlad wedi gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth.

“Mae asiantaethau’r DEC yn darparu triniaeth ar gyfer diffyg maeth, yn cynnal timau iechyd symudol, yn dosbarthu bwyd ac arian ond maen nhw angen rhagor o arian er mwyn gallu cyrraedd mwy o bobl. Bydd unrhyw swm gan bobl Cymru yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan bobl Yemen.”

Mae modd cyfrannu £5 at yr apêl drwy tecstio HELPU i 70000.