Paul Groom, Llun: PA
Mae disgwyl i ddyn o Lannau Mersi ymddangos gerbron ynadon heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn o ardal Wrecsam.

Bu farw Paul Groom, 48 oed, yn yr ysbyty yn Lerpwl ar Ragfyr 10 ar ôl dioddef anafiadau i’w ben rai dyddiau ynghynt.

Roedd yn wreiddiol o Wrecsam ond yn byw yn ardal Lerpwl.

Mae disgwyl i Michael Hill, 32 oed, o Kirkby ymddangos o flaen Llys Ynadon Lerpwl heddiw.